Argaeledd ffurflenni cais papur am bleidlais drwy ddirprwy

Dylech sicrhau bod gennych gyflenwad digonol o ffurflenni cais papur am bleidlais drwy ddirprwy rhag ofn na fydd etholwr yn gallu argraffu ffurflenni ei hun neu, ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, os nad yw'n gallu defnyddio'r gwasanaeth i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy.

Rhaid i chi ddarparu nifer rhesymol o ffurflenni cais papur am bleidlais drwy ddirprwy am ddim i bobl sydd am eu defnyddio mewn perthynas ag etholiad, sy'n cynnwys pleidiau gwleidyddol.1  

Dylai ffurflenni cais papur am bleidlais drwy ddirprwy fod ar gael yn holl swyddfeydd cyhoeddus yr awdurdod lleol hefyd ac mewn lleoliadau eraill y bydd etholwyr yn mynd iddynt.

Mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol a phleidiau gwleidyddol, hefyd yn darparu ffurflenni cais am bleidlais drwy ddirprwy. 

Dylech gysylltu â'r pleidiau gwleidyddol lleol ac unrhyw sefydliadau neu grwpiau lleol sy'n cynhyrchu ffurflenni cais am bleidleisiau drwy ddirprwy er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r gofynion ar gyfer ceisiadau am bleidleisiau drwy ddirprwy ar gyfer pob math o etholiad ac i roi cyngor ar gynnwys a fformat eu ffurflenni. Dylai hyn helpu i osgoi unrhyw oedi diangen wrth brosesu ceisiadau a helpu i osgoi'r angen i etholwyr orfod ailgyflwyno cais nad yw wedi'i wneud yn gywir. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar adeg yr etholiad pan allai unrhyw oedi olygu bod yr etholwr yn colli'r dyddiad cau.

Dylech sicrhau bod pleidiau gwleidyddol lleol, ymgeiswyr ac asiantiaid mewn etholiadau yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau mewn perthynas â thrin ceisiadau am bleidleisiau drwy ddirprwy. Os byddant yn cael ffurflenni cais am bleidlais drwy ddirprwy wedi'u cwblhau, dylent eu hanfon ymlaen i'r swyddfa etholiadau yn syth ac yn ddi-oed.

Mae’r Comisiwn wedi datblygu Cod ymddygiad i ymgyrchwyr yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Chod ymddygiad i ymgyrchwyr yn etholiadau Senedd Cymru ac mewn etholiadau lleol yng Nghymru. Dylech ymgysylltu â’r Swyddog Canlyniadau (os nad chi yw’r Swyddog Canlyniadau hefyd) mewn unrhyw etholiadau sy’n cael eu cynnal er mwyn sicrhau y darperir copïau o’r cod perthnasol i bob ymgeisydd ac asiant a’u bod yn gwybod sut i gael copïau ychwanegol os bydd angen.

Mae’r codau hyn yn rhoi canllaw ynghylch yr hyn a ystyrir i fod yn ymddygiad derbyniol ac annerbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y gymuned cyn y diwrnod pleidleisio, gan gynnwys mewn perthynas â cheisiadau am bleidlais drwy ddirprwy. Dylid codi unrhyw ofidion bod y codau wedi’u torri gyda’r ymgeisydd, asiant, plaid wleidyddol neu ymgyrchydd yn gyntaf. Os oes gennych ofidion pellach neu os hoffech roi gwybod bod y cod wedi’i dorri, dylech gysylltu yn gyntaf a thîm lleol y Comisiwn.

Cytunwyd ar y codau hyn gan y pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir gan Banel Pleidiau Seneddol Tŷ’r Cyffredin a’r paneli ar gyfer Senedd Cymru a Senedd yr Alban, ac maent wedi’u cefnogi gan aelodau Bwrdd Cydlynu a Chynghori Etholiadol y DU y Comisiwn Etholiadol o Uwch-swyddogion Canlyniadau a Chofrestru Etholiadol a gan Ford Gron Uniondeb Etholiadol.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Mai 2024