Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Penderfynu ar geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy
Etholwyr sydd wedi cofrestru, neu a fydd wedi cofrestru, yw’r unig rai a all wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. Caiff ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy eu prosesu yn yr EROP (ac eithrio ceisiadau mewn argyfwng am bleidlais drwy ddirprwy). Caiff gwiriad o’r gofrestr etholiadol berthnasol a gedwir yn eich EMS ei gynnal ar gyfer y ceisiadau hyn a bydd canlyniad y gwiriad hwn yn ymddangos yn yr EROP i gadarnhau a yw unigolyn sydd wedi gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn etholwr cofrestredig.
Caiff ceisiadau mewn argyfwng am bleidlais drwy ddirprwy eu prosesu yn yr EMS a bydd angen gwirio’n ymarferol bod yr etholwr wedi cofrestru neu y bydd wedi cofrestru.
Lle daw i’r amlwg bod gan ymgeisydd gofnod sy’n disgwyl cael ei ychwanegu at y gofrestr, gallwch benderfynu ar y cais am bleidlais drwy ddirprwy ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu o bum diwrnod fynd heibio.
Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn dychwelyd at yr EROP i brosesu ceisiadau’r rhai sy’n disgwyl cael eu hychwanegu ar ôl y cyfnod gwrthwynebu.
Os yw’r canlyniadau’n dangos nad yw’r ymgeisydd wedi’i gynnwys ar gofrestr etholiadol berthnasol neu nad yw wedi gwneud cais i gael ei gynnwys ar gofrestr etholiadol berthnasol, dylech benderfynu a ydych am wrthod y cais nawr, disgwyl a gwirio eto’n ddiweddarach, neu wneud gwiriadau ymarferol a all fod yn ddefnyddiol.
Gallai hyn fod ar gyfer gweld a yw’r ymgeisydd wedi gwneud cais i gofrestru ar yr un pryd ag y mae wedi gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, ac nid yw’r gwiriad data o’r broses gofrestru wedi’i ddychwelyd eto neu gall fod ar gyfer pennu a yw’r rheswm dros beidio â chyfateb cofnod oherwydd mân wahaniaeth. Er enghraifft, efallai fod enw etholwr wedi cael ei gamsillafu neu wedi’i newid yn gyfreithiol ers iddo wneud cais i gael ei gynnwys ar y gofrestr. Dylech gysylltu â’r etholwr i wneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol er mwyn i chi fod yn fodlon bod y cofnod ar y gofrestr yn cyfateb i’r unigolyn sydd wedi gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy.
Ar ôl i’r cais basio’r gwiriad cofrestru, mae’n rhaid ei graffu i sicrhau ei fod yn bodloni’r gofynion rhagnodedig.5
Pan fo’n bodloni’r gofynion hynny, mae’n rhaid i chi gadarnhau canlyniad y cais i’r etholwr a’i ddirprwy.6
Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn ein canllawiau ar gadarnhau canlyniadau ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy.
Pan fo’n ymddangos bod yr etholwr wedi gwneud camgymeriad wrth gwblhau ei gais am bleidlais drwy ddirprwy (er enghraifft, lle mae wedi trawsosod ffigyrau ei ddyddiad geni), dylech gysylltu â’r etholwr a gofyn iddo ailgyflwyno ffurflen gais. Dylech gymryd camau ychwanegol i gysylltu â’r etholwr lle bo modd, drwy e-bost neu dros y ffôn, os yw’n agos at y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am bleidlais drwy ddirprwy cyn etholiad.
Pan fo gennych unrhyw bryderon ynghylch uniondeb, dylech gysylltu â’ch Pwynt Cyswllt Unigol am gyngor a dylech ymdrin â’r ffurflen gais yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir ganddo ynghylch ymdrin â thystiolaeth.
Mae canllawiau ar sut i gyrchu a defnyddio’r EROP ar gael gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
- 5. Rheoliad 51, RPR 2001, Paragraff 1, Atodlen 1 SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 57(1) RPR 2001, Paragraff 12, Atodlen 1 SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 6