Pa wybodaeth y mae’n rhaid i gais am bleidlais drwy ddirprwy ei chynnwys?
Mae’n rhaid i geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy gynnwys:1
enw llawn yr etholwr
y cyfeiriad y mae’r etholwr wedi cofrestru i bleidleisio ynddo (neu wedi gwneud cais i bleidleisio ynddo)
dyddiad geni’r etholwr
rhif Yswiriant Gwladol yr etholwr (NINo) neu, os nad yw’n gallu darparu’r wybodaeth honno, y rheswm pam nad yw’n gallu gwneud hynny
llofnod yr etholwr (neu gais i hepgor llofnod)
p’un a yw’r cais ar gyfer etholiad ar ddyddiad penodol (ac os ydyw, cadarnhau pa un), cyfnod penodol (ac os ydyw, ystod dyddiadau’r cyfnod) neu ar gyfer y cyfnod amhenodol
dangos pa etholiadau y mae’r cais yn berthnasol iddynt
dyddiad y cais.
Mae enw llawn, rhif Yswiriant Gwladol (NINo) a dyddiad geni yr ymgeisydd hefyd yn cael eu galw’n ddynodwyr personol, a defnyddir y wybodaeth hon i gynnal gwiriad paru data â’r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn gwirio hunaniaeth yr ymgeisydd.
y rheswm pam y mae’r etholwr yn honni bod ganddo’r hawl i bleidleisio drwy ddirprwy
datganiad yn cadarnhau bod y dirprwy yn gallu ac yn barod i gael ei benodi fel y dirprwy.
Mae’n rhaid i geisiadau ar gyfer pleidleisiau drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru hefyd gynnwys y berthynas deuluol rhwng yr etholwr a’r dirprwy 3
(os oes yna un o gwbl).
Mae ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar rifau Yswiriant Gwladol a Dyddiadau geni yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ddynodyddion personol.
Os nad yw ymgeisydd yn gallu darparu Rhif Yswiriant Gwladol, gall ddarparu copi o’r dogfennau a restrir yn yr adran dogfennau derbyniol ar gyfer y broses eithriadau gyda’i gais.5
Os caiff y dogfennau hyn eu darparu, gellir eu defnyddio i ddilysu hunaniaeth ymgeisydd. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol pan fo’r dyddiad cau ar gyfer etholiad yn agos i sicrhau y gellir prosesu cais heb oedi.
Gall cais hefyd gynnwys enw blaenorol ymgeisydd, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn, ond nad ydynt yn angenrheidiol.
1. Paragraffau 3(2)(c) a 4(2)(c), Atodlen 4, Cynrychiolaeth y Bobl 2000; Rheoliad 51(1), (2), (4) a (5), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (RPR 2001)↩ Back to content at footnote 1