Ceisiadau am hepgoriad llofnod ar gyfer pleidleiswyr drwy ddirprwy

Os na all ymgeisydd ddarparu llofnod neu lofnod cyson oherwydd unrhyw anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu, gellir hepgor y gofyniad am lofnod ar y cais. 

Gall etholwr wneud cais am ffurflen gais i hepgor llofnod gennych unrhyw bryd. Gellir gwneud y cais mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys fel rhan o gais ar-lein am bleidlais drwy ddirprwy. 

Rhaid i'r ymgeisydd roi'r rheswm dros y cais am hepgoriad gyda'r cais, ynghyd ag enw a chyfeiriad unrhyw un sydd wedi'i helpu i gwblhau'r cais.1

Dylech fodloni eich hun bod y cais yn un dilys ac nad yw'n cael ei ddefnyddio fel ymgais i osgoi mesurau diogelwch. Mater i chi yw penderfynu ar y prawf neu'r dystiolaeth sydd ei (h)angen er mwyn bod yn fodlon na all yr ymgeisydd ddarparu llofnod, neu lofnod cyson, oherwydd anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu. 

Nid oes gennych unrhyw bwerau i ymchwilio na dyfarnu ar natur na difrifoldeb anabledd etholwr. Dylech ddefnyddio dull cyson wrth ystyried ceisiadau am hepgoriadau llofnod sy'n cydbwyso hygyrchedd ac uniondeb y broses pleidleisio drwy ddirprwy.

Os byddwch yn gwneud ymholiadau pellach, dylech gadw mewn cof na all yr unigolyn sy'n gwneud cais am hepgoriad ymateb ei hun o bosibl. Fodd bynnag, gallwch ofyn i unrhyw unigolyn a wnaeth neu sy'n helpu'r ymgeisydd am eglurhad neu ragor o wybodaeth. Er enghraifft, gallech ofyn i'r unigolyn hwn gwblhau datganiad wedi'i lofnodi i gadarnhau, hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred, na all yr etholwr dan sylw ddarparu llofnod neu lofnod cyson o ganlyniad i unrhyw anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu. 

Dylech ei gwneud yn glir i unrhyw un rydych yn gofyn am wybodaeth neu ddatganiad ganddo fod darparu gwybodaeth anwir mewn perthynas â chais am bleidlais drwy ddirprwy yn drosedd, a nodi'n glir beth yw'r gosb berthnasol fwyaf y gellir ei chael.

Os na fyddwch yn fodlon bod y cais am hepgoriad yn ddilys ar ôl gwneud ymholiadau, dylech ei wrthod. Os byddwch yn gwrthod y cais am hepgoriad, rhaid i chi wrthod y cais am bleidlais drwy ddirprwy a rhoi gwybod i'r ymgeisydd yn ysgrifenedig am y rhesymau dros eich penderfyniad. 

Dylech fod yn wyliadwrus o unrhyw dueddiadau a allai ddod i'r amlwg wrth dderbyn ceisiadau am hepgoriad, a dylai'r canlynol godi amheuon: 

  • nifer mawr o geisiadau a gynorthwywyd neu a lofnodwyd gan un unigolyn heb unrhyw esboniad credadwy (er enghraifft, mae'n debygol y byddai staff cartrefi nyrsio neu gartrefi gofal yn cynorthwyo nifer o etholwyr i gwblhau eu ceisiadau am hepgoriad, ond mae'n llai tebygol y byddai angen i aelodau cyffredin o'r cyhoedd, nad oes cysylltiad ganddynt â sefydliadau o'r fath, gynorthwyo nifer mawr o ymgeiswyr)
  • nifer mawr o geisiadau o un stryd neu ardal heb unrhyw esboniad credadwy (er enghraifft, mae'n debygol y byddai mwy o geisiadau am hepgoriad na'r arfer yn dod i law gan breswylwyr mewn cartref nyrsio neu gartref gofal, ond mae'n llai tebygol y byddai angen hepgoriad ar nifer mawr o breswylwyr mewn tŷ amlfeddiannaeth cyffredin)

Os byddwch yn fodlon ar y cais am hepgoriad a'r cais cysylltiedig am bleidlais drwy ddirprwy, dylech gadarnhau'n ysgrifenedig i'r etholwr eich bod wedi derbyn y cais a'r hepgoriad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023