Mathau o ddogfennau ar gyfer y broses eithriadau mewn perthynas â cheisiadau am bleidlais drwy ddirprwy

Dylai ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy lle nad ydynt eu paru â'r Adran Gwaith a Phensiynau gael eu cyfeirio at y broses eithriadau. 

Dylai'r dogfennau sydd eu hangen i gadarnhau pwy yw ymgeisydd yn llwyddiannus gyfeirio at yr ymgeisydd wrth ei enw ac mae'r mathau o ddogfennau y mae'n rhaid eu darparu ar gyfer etholwyr domestig, a'r nifer, fel a ganlyn:

  • unrhyw un o'r dogfennau o restr 1 
  • un ddogfen o restr 2 a dwy ddogfen ychwanegol o restr 2 neu o restr 3
Rhestr 11   
pasbort yr ymgeisydd
cerdyn adnabod yr ymgeisydd a gyhoeddwyd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd
dogfen mewnfudo fiometrig yr ymgeisydd a gyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 5 o Ddeddf Ffiniau 20072
cerdyn adnabod etholiadol yr ymgeisydd a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
trwydded yrru ar ffurf cerdyn-llun a gyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig neu drwydded yrru a gyhoeddwyd gan un o Diriogaethau Dibynnol y Goron, sydd â llun o'r ymgeisydd

 

Rhestr 2 rhaid i'r dogfennau canlynol fod wedi'u cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig neu yn un o Diriogaethau Dibynnol y Goron, heblaw am y ddogfen olaf yn y rhestr hon3  
tystysgrif geni'r ymgeisydd
tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil yr ymgeisydd
tystysgrif mabwysiadu'r ymgeisydd
tystysgrif arfau tanio'r ymgeisydd a roddwyd o dan Ddeddf Arfau Tanio 1968
cofnod penderfyniad ar fechnïaeth a wnaed mewn perthynas â'r ymgeisydd yn unol ag adran 5(1) o Ddeddf Mechnïaeth 1976
trwydded yrru'r ymgeisydd, nad yw ar ffurf cerdyn-llun
trwydded yrru'r ymgeisydd, a roddwyd yn rhywle heblaw am y Deyrnas Unedig neu un o Diriogaethau Dibynnol y Goron, sydd â llun o'r ymgeisydd, ac y mae'n rhaid iddi fod yn ddilys am o leiaf 12 mis o'r dyddiad y daeth yr ymgeisydd i'r Deyrnas Unedig

 

Rhestr 3 rhaid i unrhyw un o'r mathau canlynol o dystiolaeth gynnwys enw llawn yr ymgeisydd fel y'i nodir ar ei gais5  
datganiad ariannol, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—
•    datganiad morgais
•    cyfriflen gan fanc neu gymdeithas adeiladu neu lythyr gan fanc neu gymdeithas adeiladu yn cadarnhau bod yr ymgeisydd wedi agor cyfrif gyda'r banc neu'r gymdeithas adeiladu dan sylw
•    cyfriflen cerdyn credyd
•    datganiad pensiwn
llythyr neu ddatganiad galw am dalu'r dreth gyngor
bil cyfleustod
Ffurflen P45 neu Ffurflen P60 a gyflwynwyd i'r ymgeisydd gan ei gyflogwr neu gyn-gyflogwr
datganiad o fudd-daliadau neu hawl i fudd-daliadau, megis datganiad o fudd-dal plant, o fewn ystyr adran 141 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, neu lythyr yn cadarnhau bod hawl gan yr ymgeisydd i gael budd-dal tai, o fewn ystyr adran 130 o'r Ddeddf honnot

Os na all etholwr domestig sy'n gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ddarparu'r mathau o dystiolaeth ddogfennol a nodir yn y canllawiau hyn, neu ddigon o'r mathau hynny, dylid gofyn iddo gyflwyno ardystiad i ategu ei gais.

Y broses eithriadau ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy gan etholwyr tramor

Mae'r mathau o ddogfennau y gellir eu darparu i gadarnhau pwy yw ymgeisydd am bleidlais drwy ddirprwy yn llwyddiannus os yw wedi'i gofrestru fel etholwr tramor yr un fath â'r rhai a nodir uchod, ond gyda'r eithriad canlynol:

  • gall etholwyr ddarparu trwydded yrru ar ffurf cerdyn â llun a roddwyd yn rhywle heblaw am y DU neu un o Diriogaethau Dibynnol y Goron ac nid oes gofyniad mewn perthynas ag amseriad dilysrwydd y ddogfen honno 
  • mae'n rhaid bod y dogfennau yn rhestr 3 wedi cael eu rhoi yn y Deyrnas Unedig neu yn un o Diriogaethau Dibynnol y Goron.  

Os na all etholwr tramor sydd wedi gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ddarparu'r mathau o dystiolaeth ddogfennol a nodir yn y canllawiau hyn, neu ddigon o'r mathau hynny, dylid gofyn iddo ddarparu ardystiad i ategu ei gais.

Y broses eithriadau ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi'u cofrestru drwy ddatganiad gwasanaeth am eu bod yn briod neu'n bartner sifil i aelod o'r lluoedd arfog, yn un o Weision y Goron neu'n briod neu'n bartner sifil i un o Weision y Goron.

Os bydd ymgeisydd am bleidlais drwy ddirprwy wedi'i gofrestru drwy ddatganiad gwasanaeth am ei fod yn briod neu'n bartner sifil i aelod o'r lluoedd arfog, yn un o Weision y Goron neu'n briod neu'n bartner sifil i un o Weision y Goron a bod angen tystiolaeth ychwanegol arnoch i gadarnhau pwy ydyw dylech ysgrifennu at yr unigolyn a gofyn iddo ddarparu un o'r dogfennau canlynol4

  • pasbort yr ymgeisydd;
  • cerdyn adnabod yr ymgeisydd a gyhoeddwyd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Mae'n rhaid i'r ddogfen hon gael ei hardystio gan un o weision y Goron neu aelod o staff y British Council neu un o swyddogion y lluoedd arfog, ond nad yw'n briod nac yn bartner sifil i'r ymgeisydd.6

Nid oes proses eithriadau ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi'u cofrestru drwy ddatganiad gwasanaeth neu fel aelod o'r lluoedd arfog. I gael rhagor o wybodaeth am y broses ardystio ar gyfer yr etholwyr hyn, gweler ein canllawiau ar y broses ardystio ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Ionawr 2025