Rhoi gwybod i staff gorsafoedd pleidleisio am ddirprwyon a benodwyd
Os penderfynir ar gais ar gyfer etholiadau Senedd y DU neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu drwy'r broses eithriadau neu'r broses ardystio hyd at ddiwedd y cyfnod pleidleisio neu os gwneir cais newydd am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng ar ôl i'r rhestr dirprwyon gael ei dosbarthu i'r orsaf bleidleisio, bydd angen rhoi gwybod i'r Swyddog Llywyddu yn yr orsaf bleidleisio lle bydd y dirprwy yn pleidleisio, gan na fydd ar y rhestr dirprwyon a ddarparwyd yn wreiddiol.
Dylid gwneud pob ymdrech i gysylltu â'r Swyddog Llywyddu yn uniongyrchol i roi gwybod iddo fod dirprwy wedi'i benodi, yn enwedig gan nad oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i'r dirprwy ddarparu unrhyw ddogfennaeth er mwyn profi bod hawl ganddo i bleidleisio ar ran etholwr.
Pan fo'n bosibl, argymhellir y dylid rhoi rhestr dirprwyon atodol i'r orsaf bleidleisio, y dylid ei hychwanegu at y rhestr a ddarparwyd yn wreiddiol.
Bydd angen trefniadau lleol rhyngoch chi a'r Swyddog Canlyniadau er mwyn penderfynu sut y rhoddir gwybod i'r Swyddog Llywyddu am unrhyw ddirprwyon a benodir.
Er enghraifft, gallech anfon llythyr at ddirprwy unrhyw bleidleisiwr y mae ei gais wedi'i dderbyn yn ei awdurdodi i weithredu fel dirprwy, a fyddai'n cynnwys manylion yr unigolyn y mae'n pleidleisio ar ei ran hefyd. Gellid cyfarwyddo'r dirprwy wedyn i fynd â'r awdurdodiad hwnnw gydag ef pan fydd yn mynd i bleidleisio, a'i roi i'r Swyddog Llywyddu. Yna, dylid cadw'r llythyr gyda'r rhestr dirprwyon fel cofnod bod papur pleidleisio wedi'i roi i'r dirprwy.