Ardystio pleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng

Mae'n rhaid i ffurflenni cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng gael eu hardystio ac eithrio:

  • pan fo'r etholwr wedi'i gofrestru'n ddienw1
  • pan wneir y cais ar gyfer etholiadau Senedd y DU neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu am resymau sy'n ymwneud â phrawf adnabod pleidleiswyr2

Os bydd y cais o ganlyniad i gyflwr meddygol, salwch neu anabledd, rhaid i'r sawl sy'n ardystio fod yn un o'r unigolion a nodir yn y rhestr o bobl a all ardystio ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy a wneir ar sail anabledd neu salwch.

Mae'n rhaid i'r ardystiad gynnwys, hyd eithaf gwybodaeth a chred y sawl sy'n ardystio, y dyddiad yr aeth yr ymgeisydd yn sâl neu'n anabl, y mae'n rhaid iddo fod ar ôl 5pm ar y chweched diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio er mwyn derbyn y cais.3  

Os bydd unigolyn yn gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng gan ei fod wedi cael ei alw i ffwrdd o ganlyniad i'w alwedigaeth, ei wasanaeth neu ei gyflogaeth, rhaid i'r cais gynnwys y dyddiad y daeth yn ymwybodol o'r amgylchiadau sy'n golygu na all bleidleisio yn bersonol.4  

Mae'n rhaid i geisiadau ar sail galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth gael eu hardystio naill ai:5  

  • gan gyflogwr yr ymgeisydd, neu gyflogai sydd wedi'i ddirprwyo i wneud hynny ar ran y cyflogwr
  • os yw'r ymgeisydd yn hunangyflogedig, gan rywun sy'n 18 oed neu'n hŷn (neu'n 16 oed neu'n hŷn ar gyfer ceisiadau yn etholiadau Senedd Cymru)6 sy'n adnabod yr unigolyn ond nad yw'n perthyn iddo

Yn y cyd-destun hwn, bydd unigolyn yn perthyn i un arall os yw'n ŵr/gwraig, partner sifil, rhiant, tad-cu neu fam-gu, brawd, chwaer, plentyn neu ŵyr neu wyres iddo.7

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023