Cadarnhau pwy yw ymgeisydd

Rhaid i unrhyw un sy'n gwneud cais newydd am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu gyflwyno dynodyddion personol a gaiff eu defnyddio i gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau.1 Rhaid ystyried canlyniadau'r gwiriadau hyn, a fydd yn ymddangos yn y Porth i Swyddogion Cofrestru Etholiadol, wrth benderfynu ar y cais.2  

Os na ellir cadarnhau pwy yw ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau, dylech ddilyn y broses eithriadau neu, os na wneir hynny, y broses ardystio.3 Yn wahanol i geisiadau ar gyfer cofrestru i bleidleisio a Thystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr, ni allwch ddefnyddio data lleol i ddilysu ceisiadau am bleidleisio drwy ddirprwy.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023