Pwy all ardystio cais am bleidlais drwy ddirprwy ar sail anabledd neu ddallineb?

Mae'n rhaid i ffurflenni cais ar gyfer penodi dirprwy ar sail anabledd neu ddallineb gael eu hardystio gan un o'r canlynol:1  

  • ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig sy'n trin yr ymgeisydd mewn perthynas â'i anabledd neu y mae'r ymgeisydd yn cael gofal ganddo/ganddi o ran yr anabledd hwnnw
  • rhywun sydd wedi'i gofrestru fel aelod o broffesiwn y mae Gorchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 yn gymwys iddo (h.y. therapyddion celf, ciropodyddion, gwyddonwyr clinigol, dietegwyr, technegwyr labordai meddygol, therapyddion galwedigaethol, orthoptyddion, parafeddygon, ffisiotherapyddion, prosthetyddion ac orthotyddion, radiograffyddion a therapyddion lleferydd ac iaith) sy'n trin yr ymgeisydd mewn perthynas â'i gyflwr neu y mae'r ymgeisydd yn cael gofal ganddo o ran yr anabledd hwnnw
  • deintydd cofrestredig, optegydd cyflenwi, optometrydd, fferyllydd fferyllol, meddyg esgyrn neu geiropractydd sy'n trin yr ymgeisydd mewn perthynas â'i anabledd neu y mae'r ymgeisydd yn cael gofal ganddo/ganddi o ran yr anabledd hwnnw
  • rheolwr gwasanaeth cartref gofal a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 
  • warden safle preswyl a ddarperir i bobl o oedran pensiwn neu bobl anabl, os bydd yr ymgeisydd wedi nodi ei fod yn byw mewn sefydliad o'r fath
  • rheolwr (neu ei gynrychiolydd awdurdodedig) ysbyty sydd wedi'i gofrestru yn unol ag Adran 145 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 
  • gweithiwr cymdeithasol cofrestredig sydd wedi trefnu gofal neu gymorth ar gyfer yr unigolyn
  • seicolegydd siartredig cofrestredig sy'n trin yr ymgeisydd mewn perthynas â'i gyflwr neu y mae'r ymgeisydd yn cael gofal ganddo o ran y cyflwr hwnnw

Yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid i'r sawl sy'n ardystio'r ffurflen roi ei enw a'i gyfeiriad.2 Yr unig eithriad yw pan y gwneir cais gan etholwr a gedwir yn yr ysbyty o dan Adran 145 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.3 Yn yr achos hwn, nid oes angen i'r sawl sy'n ardystio roi ei gyfeiriad.

Ym mhob achos, rhaid i'r sawl sy'n ardystio ddatgan y canlynol:4   

  • y swydd sy'n ei gymhwyso i ardystio'r cais
  • na ellir disgwyl yn rhesymol i'r ymgeisydd fynd i'r orsaf bleidleisio na phleidleisio yno heb gymorth oherwydd ei anabledd, hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred 
  • bod y cyflwr meddygol neu'r anabledd yn debygol o barhau naill ai am gyfnod amhenodol neu am gyfnod a nodir gan y sawl sy'n ardystio

Os gwneir cais gan etholwr a gedwir yn yr ysbyty o dan Adran 145 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, rhaid i'r sawl sy'n ardystio'r cais hefyd ddatgan y ddarpariaeth statudol y mae'r ymgeisydd yn atebol i gael ei gadw yn unol â hi.5  

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023