Ni fydd ymgeisydd yn gallu cyflwyno cais anghyflawn am bleidlais drwy ddirprwy ar-lein.
Dyma’r unig eithriadau:
lle nad yw’r ymgeisydd yn gallu darparu ei Rif Yswiriant Gwladol ac mae’n darparu datganiad o’r rhesymau pam fel rhan o’r cais
lle nad yw’r ymgeisydd yn gallu darparu ei lofnod ac mae’n nodi y bydd angen trefniant hepgor arno
Lle nad yw’r ymgeisydd yn gallu darparu ei Rif Yswiriant Gwladol ac mae’n darparu datganiad o’r rhesymau dros hynny, mae’n rhaid i chi geisio dilysu hunaniaeth yr ymgeisydd drwy ddefnyddio’r broses eithriadau.1
Ceisiadau papur
Efallai y cewch geisiadau papur am bleidlais drwy ddirprwy nad ydynt yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol.
Lle nad yw ymgeisydd yn gallu darparu ei Rif Yswiriant Gwladol, ac mae’n darparu datganiad o’r rhesymau pam, ni chaiff y cais ei wrthod ar y sail ei fod yn anghyflawn, ac mae’n rhaid i chi ddilysu hunaniaeth yr ymgeisydd drwy ddefnyddio’r broses eithriadau.2
Os na cheir unrhyw eglurhad o ran pam fod y wybodaeth ofynnol ar goll o gais papur, dylech, lle bo modd, ymholi i gael y wybodaeth goll. Os na chaiff y wybodaeth goll ei chyflwyno, mae’n rhaid i chi wrthod y cais. Dylech gysylltu â’r ymgeisydd, egluro pam fod y cais wedi cael ei wrthod ac egluro sut i wneud cais newydd. Os caiff y cais ei wneud yn y cyfnod cyn etholiad, dylech egluro bod rhaid i gais newydd gael ei gyflwyno erbyn 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn yr etholiad er mwyn iddo gael ei brosesu mewn pryd ar gyfer yr etholiad hwnnw.
Methu â darparu llofnod neu fethu â darparu llofnod cyson
Lle nad yw ymgeisydd yn gallu darparu ei lofnod, dylai nodi y bydd angen trefniant hepgor arno a dylech anfon ffurflen cais am drefniant hepgor llofnod i’w llenwi.
1. Rheoliad 56C, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (RPR 2001) a Pharagraff 11A, Atodlen 1, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025)↩ Back to content at footnote 1