Mae’n rhaid i unrhyw unigolyn sy’n gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ddarparu dynodyddion personol a ddefnyddir i ddilysu hunaniaeth yr ymgeisydd yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’n rhaid ystyried canlyniadau’r gwiriadau hyn, a fydd yn ymddangos yn y Porth Swyddog Cofrestru Etholiadol (EROP), wrth benderfynu ar y cais.
Os na ellir dilysu hunaniaeth ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau, dylech ddilyn y broses eithriadau, neu os nad yw hynny’n bosibl, y broses ardystio. Yn wahanol i geisiadau ar gyfer cofrestru etholiadol a Thystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr, ni allwch ddefnyddiol data lleol i ddilysu ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy.