| Argraffu'r canllawiau llawn

Gwneud ffurflenni papur cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gael

Dylech sicrhau bod gennych ddigon o ffurflenni papur cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gael rhag ofn nad yw etholwr yn gallu argraffu ffurflenni ei hun neu nad yw’n gallu defnyddio’r gwasanaeth ar-lein i ymgeisio am bleidlais drwy ddirprwy.

Mae’n rhaid i chi gyflenwi nifer resymol o ffurflenni papur cais am bleidlais drwy ddirprwy yn rhad ac am ddim i bobl sy’n dymuno eu defnyddio mewn perthynas ag etholiad, sy’n cynnwys pleidiau gwleidyddol.1    

Dylai ffurflenni papur ar gyfer cais am bleidlais drwy ddirprwy hefyd fod ar gael ym mhob un o swyddfeydd cyhoeddus yr awdurdod lleol ac mewn lleoliadau eraill y mae etholwyr yn mynd iddynt.

Mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol a phleidiau gwleidyddol, hefyd yn darparu ffurflenni ar gyfer cais am bleidlais drwy ddirprwy. 
Dylech gysylltu â phleidiau gwleidyddol lleol ac unrhyw grwpiau neu sefydliadau lleol sy’n cynhyrchu ffurflenni ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy i’w gwneud yn ymwybodol o’r gofynion ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy ac i roi cyngor ar gynnwys a fformat eu ffurflenni. Dylai hyn fod o gymorth i osgoi oedi diangen wrth brosesu ceisiadau a helpu i osgoi’r angen i etholwyr ail-gyflwyno cais na gafodd ei wneud yn gywir. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar adeg etholiad lle y gallai unrhyw oedi arwain at yr etholwr yn methu’r dyddiad cau.

Dylech sicrhau bod pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid lleol mewn etholiadau yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau mewn perthynas ag ymdrin â cheisiadau am bleidlais drwy ddirprwy. Os cânt ffurflenni papur ar gyfer cais am bleidlais drwy ddirprwy sy’n gyflawn, dylent eu hanfon yn uniongyrchol ac ar unwaith i’r swyddfa etholiadau.

Mae’r Comisiwn wedi datblygu Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ogystal â Chod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru. Dylech gysylltu â’r Swyddog Canlyniadau (os nad chi yw’r Swyddog Canlyniadau hefyd) mewn unrhyw etholiadau sy’n mynd rhagddynt i sicrhau bod yr holl ymgeiswyr a’r holl asiantiaid yn cael copïau o’r cod perthnasol ac yn gwybod sut i gael copïau ychwanegol os oes angen.

Mae’r codau hyn yn rhoi arweiniad ar beth y’i hystyrir yn ymddygiad derbyniol ac annerbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y gymuned yn y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio, ac mae’n cyfeirio at hynny mewn perthynas â cheisiadau am bleidlais drwy ddirprwy hefyd. Dylai unrhyw bryderon bod y codau wedi’u torri cael eu codi gyda’r ymgeisydd, yr asiant, y blaid wleidyddol neu’r ymgyrchydd dan sylw yn gyntaf. Os oes gennych ragor o bryderon neu os hoffech adrodd am achos o dorri’r cod, dylech gysylltu â’ch tîm Comisiwn lleol yn y cychwyn cyntaf.

Cytunwyd ar y codau hyn gan y pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir ar Banel Pleidiau Seneddol Tŷ’r Cyffredin a’r paneli ar gyfer Senedd yr Alban a’r Senedd a chânt eu cymeradwyo gan aelodau o Fwrdd Cynghori a Chydlynu Etholiadol Comisiwn Etholiadol y DU sy’n cynnwys uwch Swyddogion Canlyniadau ac uwch Swyddogion Cofrestru Etholiadol a chan y Ford Gron ar gyfer Uniondeb Etholiadol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Gorffennaf 2026