| Argraffu'r canllawiau llawn

Cyfathrebu penodiadau dirprwy i staff gorsaf bleidleisio

Os bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar gais drwy’r broses eithriadau neu ardystio hyd at ddiwedd y cyfnod pleidleisio neu os caiff cais newydd am ddirprwy mewn argyfwng ei wneud ar ôl i’r rhestr dirprwyon gael ei danfon i’r orsaf bleidleisio, bydd angen rhoi gwybod i’r Swyddog Llywyddu yn yr orsaf bleidleisio y bydd y dirprwy yn pleidleisio ynddi, gan na fydd ar y rhestr wreiddiol o restr dirprwyon a gyflenwyd.

Dylid gwneud pob ymdrech i gysylltu’n uniongyrchol â’r Swyddog Llywyddu i’w hysbysu y penodwyd dirprwy, yn enwedig gan nad oes gofyn yn ôl y gyfraith i ddirprwy ddarparu unrhyw ddogfennau i brofi bod ganddo ganiatâd i bleidleisio ar ran etholwr. Lle bo’n bosibl, caiff ei argymell bod rhestr ychwanegol o ddirprwyon yn cael ei rhoi i’r orsaf bleidleisio, ac a ddylid yna gael ei hychwanegu at y rhestr wreiddiol a gyflenwyd.

Bydd angen trefniadau lleol rhyngoch chi a’r Swyddog Canlyniadau er mwyn penderfynu sut y caiff y Swyddog Llywyddu wybod am unrhyw achosion o benodi dirprwy.

Er enghraifft, gallech roi llythyr i ddirprwy unrhyw bleidleisiwr y mae ei gais wedi cael ei dderbyn sy’n ei awdurdodi i weithredu fel dirprwy, a fyddai hefyd yn cynnwys manylion yr unigolyn y mae’n pleidleisio ar ei ran. Gallai’r dirprwy gael cyfarwyddiadau i fynd â’r awdurdod hwnnw gydag ef pan fydd yn mynd i bleidleisio a’i roi i’r Swyddog Llywyddu. Dylai’r llythyr hwn gael ei gadw gyda’r rhestr dirprwyon fel cofnod bod y dirprwy wedi cael papur pleidleisio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Gorffennaf 2026