Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Ceisiadau am bleidleisiau drwy ddirprwy
Mae sawl ffordd y gall etholwyr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy:
- ar-lein drwy GOV.UK (mewn rhai amgylchiadau)
- ar ffurf ysgrifenedig (e.e., ar ffurflen gais bapur)
- wyneb yn wyneb yn eich swyddfa (os ydych yn penderfynu cynnig y gwasanaeth)
Ceisiadau ar-lein
Gall ceisiadau ar-lein gael eu gwneud ar gyfer etholiad penodol yn unig, oni bai bod yr ymgeisydd yn:
- etholwr tramor
- etholwr yn y lluoedd arfog (a’i briod/partner sifil)
- gwas y Goron/gweithiwr y Cyngor Prydeinig (a’i briod/partner sifil)
- y mae’n ofynnol iddo wneud taith ar y môr neu mewn awyren o’i gyfeiriad cymhwyso i’w orsaf bleidleisio
ac os felly, gellir gwneud y cais am unrhyw gyfnod a ganiateir.
Ceisiadau papur
Nid yw ffurflenni cais am bleidlais drwy ddirprwy yn rhagnodedig. Fodd bynnag, mae’n rhaid i gais gynnwys yr holl wybodaeth ofynnol ac mae’n rhaid i lofnod a dyddiad geni’r ymgeisydd gael eu cyflwyno mewn fformat penodol.
Pan gewch gais am ffurflen gais bapur, cyn i chi ddarparu un, dylech wirio a yw’r ymgeisydd wedi cofrestru i bleidleisio neu wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio. Os nad yw wedi gwneud hynny, dylech egluro bod angen i’r ymgeisydd gofrestru i bleidleisio a dylech gynnig y cyfle iddo wneud cais i gofrestru ar-lein neu anfon ffurflen cofrestru pleidleisiwr.
Rydym yn creu ffurflenni ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy argraffadwy y gallwch eu defnyddio.
Caiff ein ffurflenni ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy argraffadwy eu cyhoeddi ar ein gwefan a GOV.UK.
Gall cais am bleidlais drwy ddirprwy ar bapur fod mewn unrhyw fformat: mae llythyr, e-bost gydag atodiad a sganiwyd neu ffurflen gais bapur yn dderbyniol, cyhyd â bod y llofnod a’r dyddiad geni yn glir ac wedi’u darparu ar y ffurf ragnodedig.
Os cewch gais ysgrifenedig nad yw ar ffurflen gais, dylech wirio a yw’n cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol. Os nad yw’n gyflawn, dylech ddilyn y broses a amlinellir yn ein canllawiau ar geisiadau anghyflawn.
Ceisiadau wyneb yn wyneb
Gall pobl gael anawsterau wrth gwblhau cais am bleidlais drwy ddirprwy. Er budd a chyfleustra eich etholwyr, ac i’ch cynorthwyo i fodloni eich dyletswyddau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, dylech gynnig gwasanaethau ceisiadau wyneb yn wyneb i roi’r cyfle i unigolion wneud cais heb yr angen i ddarparu gwybodaeth sydd ei hangen mewn cais ar ffurf ysgrifenedig.
Os na allwch ddarparu cymorth wyneb yn wyneb i bawb er mwyn cwblhau ceisiadau ar gyfer pleidleisiau drwy ddirprwy, dylech ddarparu’r cymorth hwn o hyd yn ôl eich disgresiwn mewn rhai amgylchiadau.
Wrth ymdrin â cheisiadau wyneb yn wyneb, cyn bwrw ymlaen, dylech wirio a yw’r ymgeisydd wedi cofrestru i bleidleisio neu a yw wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio. Os nad yw wedi gwneud hynny, dylech egluro bod angen i’r ymgeisydd gofrestru i bleidleisio cyn y gall gael pleidlais drwy ddirprwy a dylech gynnig y cyfle iddo wneud cais i gofrestru.
Os yw’r ymgeisydd yn bwriadu gwneud cais am drefniant pleidlais drwy ddirprwy am yr hirdymor, dylech hefyd fod yn barod i roi cyngor a chymorth o ran sut i gael unrhyw wybodaeth ardystio angenrheidiol.
Dylech wirio a oes gan yr ymgeisydd yr holl wybodaeth ofynnol er mwyn i chi allu cwblhau cais yn llawn ar ei ran. Mae hyn yn cynnwys ei rif Yswiriant Gwladol (NINo), neu reswm pam na ellir darparu’r rhif hwnnw, ei ddyddiad geni a’i allu i ddarparu llofnod inc ysgrifenedig ar ffurflen bapur neu ffotograff o’i lofnod inc i’w uwchlwytho i’r gwasanaeth gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. Gallwch gynorthwyo’r ymgeisydd i dynnu llun o’i lofnod a’i uwchlwytho os oes angen.
Ni all ceisiadau a wneir drwy’r gwasanaeth ymgeisio am bleidlais drwy ddirprwy gael eu cwblhau’n rhannol a dychwelyd atynt yn ddiweddarach. Felly, os nad yw ymgeisydd yn gallu darparu’r holl wybodaeth, bydd angen i chi sicrhau bod ei gais yn cael ei gofnodi ar ffurflen bapur i ganiatáu i chi ychwanegu unrhyw wybodaeth goll yn ddiweddarach.
Ar ôl i chi gael y wybodaeth ofynnol, dylech ei darllen i’r ymgeisydd i roi’r cyfle iddo adolygu’r wybodaeth a ddarparwyd ac i fod yn fodlon fod y wybodaeth yn wir ac yn gywir.
Os ydych yn caniatáu ceisiadau wyneb yn wyneb, mae’n bwysig eich bod yn cadw cofnodion cywir o’r wybodaeth a ddarperir gan ymgeiswyr. Cyn casglu unrhyw wybodaeth, dylech wneud yr ymgeisydd yn ymwybodol o’ch hysbysiad preifatrwydd a rhoi gwybodaeth ynghylch sut y caiff ei ddata ei ddefnyddio a thynnu ei sylw at y drosedd o wneud datganiad ffug.